Caban Coch - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Caban Coch

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Caban Coch


Uchder – 37m

Hyd – 186m

Cyfaint – 35,530 megalitr


Wedi ei ddylunio i edrych fel rhaeadr wrth orlifo, Caban Coch oedd yr argae cyntaf i gychwyn. Defnyddiwyd cerrig o’r chwarel gerllaw y tu fewn i’r argaeau, ond tywodfaen a gludwyd i fyny o Fro Morgannwg yw’r cerrig wyneb. Mae Caban Coch bum munud i ffwrdd o’r’ Ganolfan Ymwelwyr ar droed.

Ysgrifennodd Eustace Tickell, un o uwch beirianwyr y cynllun, a phrif Beiriannydd argae Pen y Garreg, y canlynol am Caban Coch: “… wrth orlifo, pan fo’r dŵr storm yn rhuthro dros y brig ac yn syrthio i ddyfnder o dros 120 troedfedd, bydd yr argae yng Nghaban Coch yn edrych fel rhaeadr odidog”.

Mae dŵr cydadfer yn cael ei ryddhau o waelod Caban Coch i afon Elan bob amser. Gwnaed hyn yn gyfraith pan brynodd Corfforaeth Birmingham ystâd Cwm Elan, am fod afon Elan yn un o isafonydd afon Gwy.



Gweithgareddau cyfagos


Llwybr Beicio Cylch y Caban

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded Nant y Gro

Mwynhewch olygfeydd bendigedig o Argae a Chronfa Ddŵr Caban Coch a rhyfeddwch at brydferthwch eiconaidd Traphont y Garreg Ddu ar y daith dwyawr yma i’r de i’r Ganolfan Ymwelwyr.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Cwm Elan

Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.

• I’R LLWYBR •

Cyfeiriannu yng Nghoedwig Cnwch

Mae cyfeiriannu’n gamp awyr agored hwyliog sy’n addas i bobl o bob oedran a lefel ffitrwydd, gan ymarfer y corff a’r meddwl!

• I’R LLWYBR •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU