Dol y Mynach - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Dol y Mynach

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Dol y Mynach


Uchder – 10m

Hyd – 120m


Adeiladwyd sylfeini Dol y Mynach yn ystod Cam Cyntaf y cynllun, a’r bwriad oedd ei cwblhau’r prosiect yn Ngham Dau, ynghyd â dau argae pellach yng Nghwm Claerwen, sef Ciloerwynt a Phant y Beddau. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd y dechnoleg wedi datblygu cymaint nes y bu modd adeiladu un argae mwy o lawer, sef Claerwen.

Gallwch gerdded i lawr i’r argae a gweld y cerrig mawr a ddefnyddiwyd y tu fewn i’r strwythur neu ymweld â’r guddfan adarydda. Gwelir gweilch y pysgod yma’n achlysurol, ynghyd ag adar eraill fel yr wyach gopog. Mae’r gronfa ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae twnnel yn rhedeg o Ddol y Mynach i’r gronfa ddŵr y Garreg Ddu er mwyn cynnal lefelau dŵr y Garreg Ddu pan fo’r lefelau’n ddigon isel y gallwch weld yr argae. Dol y Mynach yw’r unig argae heb dyrbinau hydrodrydan.



Gweithgareddau cyfagos


Y guddfan adarydda

Mwynhewch lonyddwch cronfa ddŵr Dol y Mynach wrth chwilio am unrhyw un o’n hymwelwyr adennog, o’r titw tomos las ar y bwydwr i’r wyach fawr gopog.

Llwybr Beicio Cylch y Caban

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• MANYLION PELLACH •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU