Nant y Gro - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Nant y Gro

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Nant y Gro


Uchder – 11m

Hyd – 58m


Defnyddiwyd Nant y Gro i gyflenwi gweithwyr y pentref â dŵr yn wreiddiol, ond cafodd ei ddryllio wrth brofi ffrwydron y bom adlamol ym 1942. Roedd yr argae un pumed maint argae Möhne yn nyffryn Ruhr, un o’r targedau a glustnodwyd gan Weinyddiaeth Awyr Prydain. Syniad Barnes Wallis oedd y bom adlamol – ni chafodd yr adlamu ei brofi yn Nant y Gro, ond profwyd y ffrwydron yma. Gwyliwch y fideo yn y neuadd arddangos i weld y profion.


Gweithgareddau cyfagos


Llwybr Cerdded Nant y Gro

Mwynhewch olygfeydd bendigedig o Argae a Chronfa Ddŵr Caban Coch a rhyfeddwch at brydferthwch eiconaidd Traphont y Garreg Ddu ar y daith dwyawr yma i’r de i’r Ganolfan Ymwelwyr.

• AM FANYLION •

Llwybr Beicio Cylch y Caban

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• AM FANYLION •

Llwybr Oren y Cnwch

Llwybr cylchol sy’n cymryd tua 90 munud ac sy’n cynnwys coedwig hynafol a golygfeydd dros Gaban Coch.

• AM FANYLION •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU