Claerwen - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Claerwen

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Claerwen


Uchder – 56m

Hyd – 355m

Cyfaint – 48,3000 megalitr


Er bod argae Claerwen yn edrych yr un fath ag argaeau eraill Cwm Elan o’r tu allan, strwythur concrit sydd ar y tu fewn. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1946 a 1952 gyda gweithlu o 470 o ddynion. Am fod y seiri maen Prydeinig yn gweithio i adfer Llundain yn sgil yr Ail Ryfel Byd, bu seiri maen Eidalaidd yn gweithio ar y cerrig allanol er mwyn sicrhau bod yr argae’n cydasio ag argaeau eraill Cwm Elan. Fe’i hagorwyd gan y Frenhines Elizabeth II ar 23 Hydref 1952 ar ei hymweliad swyddogol cyntaf â Chymru.

Mae Claerwen yn dal bron yr un faint o ddŵr â’r holl gronfeydd eraill wedi’u cyfuno, a gall y tyrbin gynhyrchu 1680 kilowat. Gyda’i gilydd gall yr holl argaeau gynhyrchu 3.5 megawat, sy’n digon i bweru tua 6000 o gartrefi.



Gweithgareddau cyfagos


Llwybr Gwyrdd Claerwen

Taith gerdded 20 munud o gwmpas gwaelod yr argae mwyaf a diweddaraf yng Nghwm Elan a Chwm Claerwen.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Porffor Claerwen

Taith gerdded deugain munud i raeadr fendigedig gyda golygfeydd godidog o’r argae mwyaf.

• I’R LLWYBR •

Craig Cwplau

: Taith gerdded digon ymestynnol awr o hyd sy’n dilyn cylch o gwmpas Craig Cwplau gyda golygfeydd o dir gwyllt Cambria ac Argae Claerwen.

• I’R LLWYBR •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU